Notting Hill

Notting Hill
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1.59 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNorth Kensington, Kensington Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5096°N 0.2043°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ245805 Edit this on Wikidata
Cod postW11, W10 Edit this on Wikidata
Map

Ardal ym Mwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Llundain Fwyaf, yw Notting Hill, sy'n agos i gornel gogledd-orllewinol Gerddi Kensington. Mae'n fyd-enwog am ei Garnifal, ac am fod yn gartref i'r farchnad stryd ar Heol Portobello.[1]

Crochendy gwneud brics yn Walmer road, yng ngogledd "Pottery Lane"

Roedd yn ardal dlawd a difreintiedig, hyd at y 1980au, ond bellach mae'n cael ei gyfrif yn ardal gefnog a ffasiynol,[2] sy'n enwog am ei dai terras enfawr, Fictorianaidd, a'i siopau a'i dai-bwyta drudfawr - yn enwedig oddeutu Westbourne Grove a Clarendon Cross. Defnyddiodd erthygl yn y Daily Telegraph yn 2004 yr ymadrodd y Notting Hill Set[3] i gyfeirio at grwp o wleidyddion Ceidwadol megis David Cameron a George Osborne a drigoodd yma'r adeg honno. Mae rhan orllewinol Notting Hill yn cynnwys ardal lle arferid gwneud brics a theils yn nechrau'r 19g, gan ddefnyddio clai'r ardal. Mae'r unig bopty sydd wedi goroesi i'w weld yn Walmer Road.[4][5] Symudodd meichiaid yma gyda'u moch, wedi iddynt gael eu gorfodi allan o ardal Marble Arch. Roedd hyn yn rhan o gynllun i "lanhau" rhannau o Lundain a alwyd yn "Potteries and Piggeries".

  1. "Portobello Road". London Online. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
  2. "West London". London Hotels .com. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
  3. Watt, Nicholas (28 Gorffennaf 2004). "Tory Bright Young Things". The Guardian (London). http://www.guardian.co.uk/politics/2004/jul/28/conservatives.uk1. Adalwyd 18 Chwefror 2010.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-12-01. Cyrchwyd 2004-12-01.
  5. Notting Hill: Olion Llundain.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search